4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i'w meibion a'i merched oll, rannau.
5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi;
6 A'i gwrthwynebwraig a'i cyffrôdd hi i'w chythruddo, am i'r Arglwydd gau ei bru hi.
7 Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a'i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi.
8 Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?
9 Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd.)
10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd.