1 Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef, ac a'i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a'th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?
2 Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i'w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab?
3 Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y'th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win.
4 A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o'u llaw hwynt.