12 Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
13 Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i'r uchelfa.
14 Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio'r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.
15 Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi.
16 A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.
17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa;
18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o'r Aifft, ac a'ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a'r rhai a'ch gorthryment chwi.