3 A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a'n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.
4 A'r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A'r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
5 Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o'r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i'r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.
6 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a'i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.
7 Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a'u drylliodd, ac a'u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i'w wartheg ef. Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.
8 A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.
9 A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A'r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.