6 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a'i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.
7 Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a'u drylliodd, ac a'u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i'w wartheg ef. Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.
8 A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.
9 A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A'r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.
10 Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.
11 A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o'r dydd: a'r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.
12 A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.