1 A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.
2 Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o'ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o'ch blaen chwi o'm mebyd hyd y dydd hwn.
3 Wele fi; tystiolaethwch i'm herbyn gerbron yr Arglwydd, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a'i talaf i chwi.
4 A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.
5 Dywedodd yntau wrthynt, Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A'r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.
6 A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a'r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft.
7 Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd, am holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i'ch tadau.