10 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr Arglwydd, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a'th wasanaethwn di.
11 A'r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a'ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel.
12 A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a'r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi.
13 Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a'r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi.
14 Os ofnwch chwi yr Arglwydd, a'i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y byddwch chwi, a'r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw.
15 Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.
16 Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi.