21 Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni'ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.
22 Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i'r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.
23 A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.
24 Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â'ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.
25 Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a'ch brenin a ddifethir.