5 Dywedodd yntau wrthynt, Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A'r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.
6 A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a'r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft.
7 Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd, am holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i'ch tadau.
8 Wedi i Jacob ddyfod i'r Aifft, a gweiddi o'ch tadau chwi ar yr Arglwydd, yna yr Arglwydd a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o'r Aifft, ac a'u cyfleasant hwy yn y lle hwn.
9 A phan angofiasant yr Arglwydd eu Duw, efe a'u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i'w herbyn hwynt.
10 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr Arglwydd, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a'th wasanaethwn di.
11 A'r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a'ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel.