1 Saul a deyrnasodd un flwyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel,
2 Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a'r bobl eraill a anfonodd efe bawb i'w babell ei hun.
3 A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy'r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.
4 A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a'r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal.
5 A'r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â'r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen.