20 Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymu bob un ei swch, a'i gwlltwr, a'i fwyell, a'i gaib.
21 Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y picffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu'r symbylau.
22 Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.
23 A sefyllfa'r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.