2 A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a'm lladd i. A dywedodd yr Arglwydd, Cymer anner-fuwch gyda thi, a dywed, Deuthum i aberthu i'r Arglwydd.
3 A galw Jesse i'r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
4 A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad?
5 Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i'r Arglwydd: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i'r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a'i feibion, ac a'u galwodd hwynt i'r aberth.
6 A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef.
7 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon.
8 Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.