5 Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i'r Arglwydd: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i'r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a'i feibion, ac a'u galwodd hwynt i'r aberth.
6 A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef.
7 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon.
8 Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.
9 Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.
10 Yna y parodd Jesse i'w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn.
11 Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio'r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.