1 Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim.
2 Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.
3 A'r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o'r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o'r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.
4 A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a'i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant.