16 A'r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod.
17 A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i'th frodyr effa o'r cras ŷd hwn, a'r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i'r gwersyll at dy frodyr.
18 Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â'th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt.
19 Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ymladd â'r Philistiaid.
20 A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i'r gwersyll, a'r llu yn myned allan i'r gad, ac yn bloeddio i'r frwydr.
21 Canys Israel a'r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin.
22 A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i'r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i'w frodyr.