2 Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.
3 A'r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o'r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o'r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.
4 A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a'i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant.
5 A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres.
6 A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau.
7 A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o'i flaen ef.
8 Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi.