26 A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i'r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw?
27 A'r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i'r gŵr a'i lladdo ef.
28 Ac Eliab, ei frawd hynaf, a'i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â'r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered.
29 A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos?
30 Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a'r bobl a'i hatebasant ef air yng ngair fel o'r blaen.
31 A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.
32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o'i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â'r Philistiad hwn.