29 A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos?
30 Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a'r bobl a'i hatebasant ef air yng ngair fel o'r blaen.
31 A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.
32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o'i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â'r Philistiad hwn.
33 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o'i febyd.
34 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o'r praidd.
35 A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a'i trewais ef, ac a'i hachubais o'i safn ef: a phan gyfododd efe i'm herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a'i trewais, ac a'i lleddais ef.