51 Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a'i tynnodd o'r wain, ac a'i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o'u cawr hwynt hwy a ffoesant.
52 A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a floeddiasant; ac a erlidiasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i'r dyffryn, a hyd byrth Ecron. A'r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron.
53 A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt.
54 A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad, ac a'i dug i Jerwsalem; a'i arfau ef a osododd efe yn ei babell.
55 A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â'r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i.
56 A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn.
57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a'i cymerodd ef ac a'i dug o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law.