6 A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau.
7 A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o'i flaen ef.
8 Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi.
9 Os gall efe ymladd â mi, a'm lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a'i gorchfygaf ef, ac a'i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.
10 A'r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd.
11 Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.
12 A'r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a'i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a'r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr.