1 A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.
2 Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:
3 A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf â'm tad o'th blegid di; a'r hyn a welwyf, mi a'i mynegaf i ti.
4 A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i'th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.
5 Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a'r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a'i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?