21 A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd.
22 Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama.
23 Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama.
24 Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos. Am hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?