8 A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef.
9 A'r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â'i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â'i law.
10 A cheisiodd Saul daro â'i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno.
11 Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i'w wylied ef, ac i'w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y'th leddir.
12 Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd.
13 A Michal a gymerodd ddelw, ac a'i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a'i gorchuddiodd â dillad.
14 A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf.