1 A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?
2 Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae.
3 A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a'th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.
4 Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a'i cwblhaf i ti.
5 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o'r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda'r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.