20 A mi a saethaf dair o saethau tua'i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.
21 Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd.
22 Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr Arglwydd a'th anfonodd ymaith.
23 Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.
24 Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o'r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd.
25 A'r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.
26 Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a'i fod yn aflan.