26 Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a'i fod yn aflan.
27 A bu drannoeth, yr ail ddydd o'r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw?
28 A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem:
29 Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i'n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a'm brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.
30 Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?
31 Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni'th sicrheir di na'th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.
32 A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?