7 Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i'th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.
8 Gwna gan hynny drugaredd â'th was; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?
9 A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i'th erbyn, onis mynegwn i ti?
10 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a'th etyb yn arw?
11 A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i'r maes. A hwy a aethant ill dau i'r maes.
12 A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a'i fynegi i ti;
13 Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a'th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyda thi, megis y bu gyda'm tad i.