16 A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl dŷ dy dad.
17 A'r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o'i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd.
18 A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain.
19 Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.
20 Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub, a'i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd.
21 Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd, ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd.
22 A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybûm y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai efe i Saul: myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di.