6 A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a'r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a'i waywffon yn ei law, a'i holl weision yn sefyll o'i amgylch;)
7 Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o'i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;
8 Gan i chwi oll gydfwriadu i'm herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o'm mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o'm plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i'm mab annog fy ngwas i gynllwyn i'm herbyn, megis y dydd hwn?
9 Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub.
10 Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â'r Arglwydd; ac a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo.
11 Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a holl dŷ ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y brenin.
12 A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.