1 A bu farw Samuel; a holl Israel a ymgynullasant, ac a alarasant amdano ef, ac a'i claddasant ef yn ei dŷ yn Rama. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran.
2 Ac yr oedd gŵr ym Maon, a'i gyfoeth yn Carmel; a'r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel.
3 Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a'r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg ei gwedd: a'r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe.
4 A chlybu Dafydd yn yr anialwch, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid.
5 A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i.
6 Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a'th dŷ heddwch, a'r hyn oll sydd eiddot ti heddwch.