10 A Nabal a atebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr.
11 A gymeraf fi fy mara a'm dwfr, a'm cig a leddais i'm cneifwyr, a'u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent?
12 Felly llanciau Dafydd a droesant i'w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny.
13 A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda'r dodrefn.
14 Ac un o'r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o'r anialwch i gyfarch gwell i'n meistr ni; ond efe a'u difenwodd hwynt.
15 A'r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes.
16 Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid.