27 Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i'm harglwydd, rhodder hi i'r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd.
28 A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i'm harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.
29 Er cyfodi o ddyn i'th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda'r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl.
30 A phan wnelo yr Arglwydd i'm harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y'th osodo di yn flaenor ar Israel;
31 Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i'm harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o'm harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i'm harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.
32 A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a'th anfonodd di y dydd hwn i'm cyfarfod i:
33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a'm lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'm llaw fy hun.