33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a'm lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'm llaw fy hun.
34 Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a'm hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i'm cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un gwryw.
35 Yna y cymerodd Dafydd o'i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddywedodd wrthi hi, Dos i fyny mewn heddwch i'th dŷ: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.
36 Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore.
37 A'r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a'i galon ef a fu farw o'i fewn, ac efe a aeth fel carreg.
38 Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.
39 A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo.