6 Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a'th dŷ heddwch, a'r hyn oll sydd eiddot ti heddwch.
7 Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel.
8 Gofyn i'th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i'th law, i'th weision, ac i'th fab Dafydd.
9 Ac wedi dyfod llanciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant.
10 A Nabal a atebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr.
11 A gymeraf fi fy mara a'm dwfr, a'm cig a leddais i'm cneifwyr, a'u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent?
12 Felly llanciau Dafydd a droesant i'w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny.