1 A'r Siffiaid a ddaethant at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila, ar gyfer y diffeithwch?
2 Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Siff, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Siff.
3 A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila, yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i'r anialwch.
4 Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr, ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr.
5 A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i'r lle y gwersyllasai Saul ynddo: a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner, tywysog ei lu. A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa, a'r bobl yn gwersyllu o'i amgylch ef.
6 Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfia, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyda mi at Saul i'r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a af i waered gyda thi.