16 Nid da y peth hyn a wnaethost ti. Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, meibion euog o farwolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr Arglwydd. Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin, a'r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef.
17 A Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddywedodd, Ai dy lais di yw hwn, fy mab Dafydd? A dywedodd Dafydd, Fy llais i ydyw, fy arglwydd frenin.
18 Dywedodd hefyd, Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw?
19 Yn awr gan hynny, atolwg, gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr Arglwydd a'th anogodd di i'm herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melltigedig fyddant hwy gerbron yr Arglwydd; oherwydd hwy a'm gyrasant i allan heddiw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dieithr.
20 Yn awr, gan hynny, na syrthied fy ngwaed i i'r ddaear o flaen wyneb yr Arglwydd: canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio chwannen, megis un yn hela petris yn y mynyddoedd.
21 Yna Saul a ddywedodd, Pechais: dychwel, Dafydd fy mab: canys ni'th ddrygaf mwy; oherwydd gwerthfawr fu fy einioes i yn dy olwg di y dydd hwn: wele, ynfyd y gwneuthum, a mi a gyfeiliornais yn ddirfawr.
22 A Dafydd a atebodd, ac a ddywedodd, Wele waywffon y brenin; deled un o'r llanciau drosodd, a chyrched hi.