9 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fyddai ddieuog?
10 Dywedodd Dafydd hefyd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, naill ai yr Arglwydd a'i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i'r rhyfel, ac a ddifethir.
11 Yr Arglwydd a'm cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ond yn awr, cymer, atolwg, y waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a'r llestr dwfr, ac awn ymaith.
12 A Dafydd a gymerth y waywffon, a'r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul; a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasai arnynt hwy.
13 Yna Dafydd a aeth i'r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell; ac encyd fawr rhyngddynt;
14 A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Abner mab Ner, gan ddywedyd, Onid atebi di, Abner? Yna Abner a atebodd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin?
15 A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, Onid gŵr ydwyt ti? a phwy sydd fel ti yn Israel? a phaham na chedwaist dy arglwydd frenin? canys daeth un o'r bobl i ddifetha'r brenin dy arglwydd di.