13 A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A'r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o'r ddaear.
14 Yntau a ddywedodd wrthi, Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo mantell. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.
15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn.
16 Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i'r Arglwydd gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti?
17 Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o'th law di, ac a'i rhoddes hi i'th gymydog, i Dafydd:
18 Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn.
19 Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a'th feibion gyda mi: a'r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.