15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn.
16 Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i'r Arglwydd gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti?
17 Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o'th law di, ac a'i rhoddes hi i'th gymydog, i Dafydd:
18 Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn.
19 Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a'th feibion gyda mi: a'r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.
20 Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o'i hyd gyhyd ar y ddaear, ac a ofnodd yn ddirfawr, oherwydd geiriau Samuel: a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwrnod na'r holl noson honno.
21 A'r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; a hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf: