18 Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn.
19 Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a'th feibion gyda mi: a'r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.
20 Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o'i hyd gyhyd ar y ddaear, ac a ofnodd yn ddirfawr, oherwydd geiriau Samuel: a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwrnod na'r holl noson honno.
21 A'r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; a hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf:
22 Yn awr gan hynny gwrando dithau, atolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan elych i'th ffordd.
23 Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, Ni fwytâf. Eto ei weision a'r wraig hefyd a'i cymellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddodd ar y gwely.
24 Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ; a hi a frysiodd, ac a'i lladdodd ef, ac a gymerth beilliaid, ac a'i tylinodd, ac a'i pobodd yn gri: