22 Yn awr gan hynny gwrando dithau, atolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan elych i'th ffordd.
23 Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, Ni fwytâf. Eto ei weision a'r wraig hefyd a'i cymellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddodd ar y gwely.
24 Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ; a hi a frysiodd, ac a'i lladdodd ef, ac a gymerth beilliaid, ac a'i tylinodd, ac a'i pobodd yn gri:
25 A hi a'i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno.