5 A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a'i galon a ddychrynodd yn ddirfawr.
6 A phan ymgynghorodd Saul â'r Arglwydd, nid atebodd yr Arglwydd iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.
7 Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.
8 A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
9 A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?
10 A Saul a dyngodd wrthi hi i'r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.
11 Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywedodd, Dwg i mi Samuel i fyny.