5 Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
6 Yna Achis a alwodd Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel mai byw yr Arglwydd, diau dy fod di yn uniawn, ac yn dda yn fy ngolwg i, pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll: canys ni chefais ynot ddrygioni, o'r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion.
7 Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.
8 A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum o'th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?
9 Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i'r rhyfel.
10 Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith.
11 Felly Dafydd a gyfododd, efe a'i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A'r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel.