10 A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.
11 A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a'i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a'i diodasant ef â dwfr.
12 A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a'i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.
13 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o'r Aifft ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a'm meistr a'm gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.
14 Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a'r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.
15 A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i Dduw, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af â thi i waered at y dorf hon.
16 Ac efe a'i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda.