21 A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â'r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.
22 Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o'r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o'r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a'i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.
23 Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni, yr hwn a'n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i'n herbyn, yn ein llaw ni.
24 Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda'r dodrefn: hwy a gydrannant.
25 Ac o'r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.
26 A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o'r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i'w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd;
27 Sef i'r rhai oedd yn Bethel, ac i'r rhai oedd yn Ramoth tua'r deau, ac i'r rhai oedd yn Jattir,