26 A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o'r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i'w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd;
27 Sef i'r rhai oedd yn Bethel, ac i'r rhai oedd yn Ramoth tua'r deau, ac i'r rhai oedd yn Jattir,
28 Ac i'r rhai oedd yn Aroer, ac i'r rhai oedd yn Siffmoth, ac i'r rhai oedd yn Estemoa,
29 Ac i'r rhai oedd yn Rachal, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,
30 Ac i'r rhai oedd yn Horma, ac i'r rhai oedd yn Chorasan, ac i'r rhai oedd yn Athac,
31 Ac i'r rhai oedd yn Hebron, ac i'r holl leoedd y buasai Dafydd a'i wŷr yn cyniwair ynddynt.