3 Felly y daeth Dafydd a'i wŷr i'r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a'u meibion, a'u merched, a gaethgludasid.
4 Yna dyrchafodd Dafydd a'r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo.
5 Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.
6 A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.
7 A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd.
8 A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.
9 Felly Dafydd a aeth, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.