1 A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a'r Philistiaid a wersyllasant yn Affec.
2 A'r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a'r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o'r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.
3 A phan ddaeth y bobl i'r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i'n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.
4 Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw.
5 A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.
6 A phan glybu'r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i'r gwersyll.