8 Gwae ni! pwy a'n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â'r holl blâu yn yr anialwch.
9 Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu'r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.
10 A'r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i'w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.
11 Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.
12 A gŵr o Benjamin a redodd o'r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.
13 A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i'r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.
14 A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A'r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli.