5 Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno'r tir; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.
6 A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith?
7 Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ:
8 A chymerwch arch yr Arglwydd, a rhoddwch hi ar y fen; a'r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith.
9 Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a'n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.
10 A'r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a'u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ:
11 Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a'r gist â'r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.